Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae Côr Meibion Colwyn yn gôr Meibion ac wedi’i leoli ym mhentref Hen Golwyn yn sir Conwy ar arfordir hardd Gogledd Cymru. Cafodd ei ffurfio’n wreiddiol fel Parti Llais Meibion Colwyn ar y 6ed o Fehefin 1894, ac enillodd y Côr yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1947 cyn cael ei ailsefydlu fel Côr Meibion Colwyn yn 1972. Ers hynny, rydym wedi ennill yr Eisteddfod Genedlaethol bedair gwaith. Fe welwch fwy o wybodaeth am y côr ar ein Tudalen Hanes.
Rydym yn ymarfer bob nos Fercher am 7.30yh (ac eithrio mis Awst) yn y Ganolfan Gymunedol, Hen Golwyn LL29 8UW.
Mae croeso cynnes i chi alw heibio i weld ni, lle byddech yn cael croeso cynnes i wrando ar y côr neu ymuno yn y canu.
Mae’r côr yn ddwyieithog, yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn ein gweithgareddau bob dydd ac yn y caneuon rydym yn eu ganu.
Rydym yn cynnal llawer o gyngherddau trwy gydol y flwyddyn, llawer ohonynt er budd elusennau lleol, yng Nghymru a thramor, ac rydym yn croesawu ymholiadau i ganu mewn digwyddiadau eraill gan gynnwys priodasau. Ond, cofiwch fod ein calendr yn llenwi’n gyflym felly ‘archebwch yn gynnar i osgoi siom,’ fel y dywedant.
Rydym yn ffodus iawn bod ein Cyfarwyddwr Cerddorol presennol, ers mis Ionawr 2020, yw y dalentog Owain Gethin Davies, a astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gan raddio gyda gradd BMus mewn cerddoriaeth. Mae’n organydd ac yn delynor.
Nid yw unrhyw gôr yn gyflawn heb gyfeilydd, ac rydym yr un mor ffodus i gael Anne Levitt ac offerynwyr talentog eraill i’n cefnogi.
Llywydd y Côr:
Dylan Cernyw

Oedd y Côr yn falch iawn o gyhoeddi yn Mis Mai 2025 bod yr amldalentog Dylan Cernyw wedi ei benodi fel Llywydd y Côr.
Telynor, Perfformiwr ac athro telyn llawrydd yw Dylan Cernyw sydd wedi perfformio yn Iwerddon, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Canada, Prague, Tsieina a’r Swistir.
Mae’n gyfeilydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Yr Urdd ar Ŵyl Gerdd Dant ers 1995.
Ymdangosodd fel gŵr gwadd yng Ngwyl o Fil o leisiau yn Llundain ac mae wedi perfformio gydag artistiaid megis Bryn Terfel, Katherine Jenkins, John Owen Jones, Shân Cothi, Rhys Meirion, Rhydian Roberts dim ond in enwi rhai.
Mae wedi cynhyrchu 10 albwm i gyd, 3 unigol, 4 albwm Piantel ac 3 albwm gyda delynores Gwenan Gibbard ar gyfer Sunrise Music gafodd ei rhyddhau yn Hong Kong. Ar wahân i rhain, mae Dylan wedi ymddangos ar nifer fawr o gryno ddisgiau fel cyfeilydd.
Yn ogystal ac unawdydd a chyfeilydd mae’n cyd weithio gyda rhain o’n artisitiaid mwyaf blaenllaw. Mae’n un hanner o’r ddeuawd gerddorol “Piantel” sydd wedi bod yn perfformio gyda’i gilydd ers dros 20 mlynedd, rhan or ddeuawd Telyn Jazz Arpe Dolce, Pedwarawd telyn Telyn4 ac yn perfformio mewn cabaret act Two Blondes and a Harp.
Yn 2024 ffurfwyd grwp newydd dan yr enw Tresillo sydd yn cynnwys y soprano Sioned Terry ar Gitarydd Wyn Pearson, Mae’n hoff iawn o gydweithio mewn sawl arddull ac rhai oi berfformiadau mwyaf diweddar oedd gyda’r grwp Lo-Fi Jones.
Yn ogystal a perfformio a thrafeilio mae’n diwtor Telyn a Piano gyda Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych ac yn arweinydd Ensemble Telyn y gwasanaeth. Mae’n falch o fod wedi gallu sefydlu’r prosiect 4 blynedd yma ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd y sîr i dderbyn hyfforddiant telyn am flwyddyn ac am ddim I greu diddordeb ymysg disgyblion ifanc y sîr, ac hefyd yr arfer o gyd chwarae.
Mae Dylan wedi bod yn diwtor gwadd mewn llawer o ŵyliau telyn ar diweddaraf oedd Gŵyl Delynau Cymru a gynhaliwyd yng Nghaernarfon.
Mae’r Côr yn ffodus dros ben cael Dylan yn Llywydd.
Cyfarwyddwr Cerdd:
Owain Gethin Davies

Dechreuodd Owain Gethin ei yrfa gerddorol fel Pianydd, Organydd a Thelynor ifanc, dechreuodd chwarae’r piano o oedran ifanc. Dechreuodd berfformio’n ifanc iawn a chystadlu mewn nifer o Eisteddfodau a chystadlaethau. Parhaodd hyn i ffynnu yn ei ysgol uwchradd, Ysgol y Creuddyn, lle derbyniodd Lefel A mewn Cerddoriaeth ac ennill ysgoloriaeth berfformio i Brifysgol Bangor i astudio Cerddoriaeth. Tra yn ei arddegau bu yn gyfeilydd gyda Côr meibion Maelgwn lle cafodd gyfle i gyfeilio mewn sawl cyngerdd lleol a theithio gyda’r côr ar daith o amgylch Canada yn 1997.
Yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Bangor dechreuodd arwain Côr Cymysg Undeb Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol. O dan ei arweinyddiaeth enillodd y côr brif gystadleuaeth y côr cymysg yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd yn y flwyddyn 2000. Aeth y côr ymlaen i berfformio mewn cystadleuthau eraill a hefyd ymddangos ar S4C o dan ei arweinyddiaeth.
Graddiodd Owain Gethin o Brifysgol Bangor yn 2001 gyda gradd BMus ac roedd ei ddatganiad perfformiad olaf ar y Delyn yn dilyn astudio o dan law y delynores enwog Elinor Bennett. Yn dilyn ei radd arhosodd ym Mhrifysgol Bangor i gwblhau ei Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg. Cwblhaodd yn 2002 a derbyniodd ei swydd ddysgu gerddoriaeth barhaol gyntaf yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Yn ystod yr amser hwn death yn arweinydd Côr merched yn y dref ‘Côr Cofnod’ a oedd â 60 o aelodau, teithiodd y côr i berfformio ledled y DU a chymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau elusennol lleol.
Yn 2005 cafodd ei ddyrchafu i swydd Pennaeth Cerdd yn ei hen ysgol uwchradd yn ôl yn ei dref enedigol yn Ysgol y Creuddyn. Yn ystod ei amser yn yr adran gerddoriaeth enillodd yr ysgol nifer o gystadlaethau corawl yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yr amlycaf yw ei Gôr Bechgyn Hŷn a enillodd gystadleuaeth y Côr Bechgyn yn 2008 yn canu fersiwn Gymraeg o ‘Dyrchefir fi’ (you raise me up) sydd ar YouTube (https://youtu.be/zyrefexEY0w) ac mae wedi cael dros 11,000 yn ei wylio.
Mae ei yrfa wedi ffynnu fel ymgynghorydd cerdd mewn addysg ac mae galw mawr amdano ledled Cymru mewn digwyddiadau hyfforddi ac am ei wasanaeth I awduro adnoddau cerdd ar gyfer ysgolion. Yn 2009 cafodd gyfle i ddatblygu’r adnoddau canu ar gyfer gwefan CânSing (rhaglen Ganu Genedlaethol Cymru) – www.cansing.org.uk .
Mae CânSing wedi bod yn bwyisg wrth ddarparu addysg Gerdd yn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd ledled Cymru, a byddai nifer o athrawon yn cytuno ei fod yn adnodd amhrisiadwy i gyflwyno cerddoriaeth yn yr ystafell ddosbarth fel bod y dysgwyr yn cael addysg gerddoriaeth o ansawdd uchel. Mae trefniannau y caneuon a’r holl adnodd ysgrifenedig wedi’i ysgrifennu gan Owain Gethin. Mae hefyd wedi ysgrifennu Pecyn Cymorth CânSing i athrawon, mae hwn eto wedi cael ei groesawu gan athrawon ac ymarferwyr eraill ledled Cymru.
Yn dilyn ei waith gyda CânSing gwahoddwyd Gethin yn 2014 i fod yn rhan o brosiect byd-eang sef prosiect Llais y Byd, sy’n rhan o’r Cyngor Prydeinig. Fe’i gwnaed yn Arweinydd Canu i Gymru a gwahoddwyd ef i ddarparu hyfforddiant i athrawon ledled y Deyrnas Unedig ac i ymweld â Sudan i weithio gyda phobl ifanc yn y wlad fel rhan o waith y Cyngor Prydeinig.
Ers mis Medi 2020 mae Owain Gethin yn Bennaeth yn Ysgol Dyffryn Conwy. Pan nad yw’n arwain mae’n hoffi cyfeilio i’w gyn-ddisgyblion a’i ffrindiau mewn cyngherddau lleol, mynd i’r gampfa, cerdded yn yr ardal leol ac mae’n chwarae’r organ yn ei eglwys Capel Seilo yn Llandudno. Dechreuodd yn y swydd fel Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Colwyn ym mis Ionawr 2020. Ei gred yw bod canu corawl yn iaith fyd-eang sydd â’r pŵer i ddod â phobl ynghyd ar adegau o angen heintus.
Cyfeilyddion
Anne Levitt
Ers graddio gyda gradd mewn cerddoriaeth o Brifysgol East Anglia (UEA), mae Anne wedi gorchuddio tirlun gerddorol mewn sawl ffordd: o arbenigo yn y parhad Harpsicord i fod yn brif ganwr mewn Band Mawr. Ar hyd y ffordd, bu’n gyfeilydd, cyfarwyddwr cerdd, a “hyfforddwr llais” i nifer o gwmnïau theatr gerdd.
Yn ôl yn 2004, tra’n byw yng Ngorllewin Swydd Efrog, cafodd wahoddiad i fod yn gyfeilydd i Gôr Meibion New Mill, swydd yr oedd ganddi am ddeuddeg mlynedd.
Symudodd yn ôl i Gymru gyda’r bwriad o ymddeol. Fodd bynnag, ar ôl cwrdd ag aelod o Gôr Meibion Colwyn ar hap, daeth yn aelod o’u tîm cyfeilyddion.
Cyfeilyddion Cefnogol Ychwanegol
Mae’r côr hefyd yn ffodus iawn i allu galw ar wasanaethau cyfeilyddion eraill pan fo angen, ac mae pob un ohonynt yn gerddorion talentog iawn yn eu maes eu hunain.
Ond, os hoffwch gael eich ystyried fel ‘dirprwy gyfeilydd’ i’r côr, mae croeso i chi gysylltu.

